
Marquees Codi'r To newydd ar gyfer 2007
Yn rhan gylch bywyd cynnyrch sy’n gwella drwy’r amser, mae Country Manor wedi prynu Marquees Codi'r To newydd i’w llogi yn 2007 sydd o’r safon uchaf o ran ansawdd
a diogelwch.
Busnes Teuluol sy’n credu o hyd bod gwasanaeth,
safon a gwerth yn cyfri o hyd.
Mae Marquees Codi'r To yn gwmni teuluol, wedi’i leoli yn Ne Cymru yng nghysgod Bannau Brycheiniog ger harddwch Penrhyn Gŵyr. Rydym yn cyflenwi Marquees Codi'r To moethus o’r safon uchaf i’n cleientiaid, ynghyd â gwasanaeth proffesiynol dihafal. Rydym yn mewn llogi Marquees Codi'r To modern, moethus ar gyfer digwyddiadau preifat a chorfforaethol o bob maint ac yn gallu cynnig amryw o ddewisiadau seddau a gwasanaethau ategol eraill.
Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i gwmnïau llogi Marquees Codi'r To eraill yw ein bod ni’n dod yn rhan o dîm eich digwyddiad. Bydd ein cydlynydd wrth law i’ch helpu a’ch cynorthwyo o’r cynllunio hyd at ddatgymalu’r babell fawr. Byddwn ni ochr yn ochr â chi er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ac i ymdrin ag unrhyw newidiadau munud olaf yn effeithlon ac effeithiol.
Wrth gynllunio eich digwyddiad arbennig, gwerthfawrogwn pa mor bwysig i chi yw gwybod y wir gost yn llawn – rydym yn wahanol i gwmnïau llogi Marquees Codi'r To eraill sy’n codi tâl ar nifer o "ychwanegiadau cudd" - does dim byd annisgwyl, rydym yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r holl gostau.
Ymfalchïa Marquees Codi'r To yn ei safonau uchel a gweithreda ar yr egwyddorion canlynol:
Safon
Mae ein Marquees Codi'r To a’n holl offer o’r safon uchaf sydd ar gael. Mae gennym
bolisi llym ar lanhau a chynhaliaeth ac rydym yn adnewyddu ac yn uwchraddio ein
stoc yn rheolaidd.
Gwasanaeth
Credwn fod ein gwasanaeth o’r radd flaenaf ac nid ydym yn rhoi’r gorau i swydd nes bod ein cwsmeriaid wedi’u bodloni’n llwyr. Rydym yn cynorthwyo a chefnogi ein cleientiaid o’r adeg y byddant yn cysylltu â ni tan i’r babell gael ei datgymalu. Gallwn hefyd gynorthwyo o ran argymell arlwywyr, gwerthwyr blodau ac adloniant.
Dibynadwyaeth a Thawelwch Meddwl
Bydd y babell fawr yn cael ei danfon a’i chodi ar adeg sy’n gyfleus i chi, trwy
drefniant rhyngom ni. Mae ein staff bob amser ar gael i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a allai godi.
Prisiau Cystadleuol
Ein polisi ni yw cynnig cyfandaliad pris penodedig ar gyfer yr eitemau a nodir yn y dyfynbris a’n bod yn esbonio pris unrhyw amrywiadau i chi.
Marquees Codi'r To - yn gweithio gyda chi i wneud
iddo ddigwydd.
Mae gan Marquees Codi'r To gydlynwyr digwyddiadau yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Margam, Pen-y-bont, Caerdydd a Chasnewydd, sy’n gwasanaethu Cymru gyfan. Cysylltwch â ni i drefnu ymgynghoriad.